awr, canys y maent yn myned i gael capel newydd yn uniongyrchol. Y mae haner digon o arian mewn llaw yn barod. Bydd y capel newydd yn yr un man a'r hen, ac nid oes man gwell yn yr holl dref. Mae y gweinidog presenol yno er ys amryw flynyddau bellach, ac yn gwneyd yn rhagorol. Trefnwyd i mi letya mewn man wrth fy modd, gyda theulu sydd yn byw mewn ty mawr yn y terrace goreu sydd yn ffryntio y môr, lle mae'r ymwelwyr mwyaf cyfrifol yn yr haf yn rhoddi i fyny. Pa ddiolch i mi fod wrth fy modd? Ychwanegwyd fy moddhad trwy fod un o fyfyrwyr Llangollen yno hefyd am ran o'r amser; ac hefyd trwy i fab y ty, bachgen ieuanc hyfwyn ryfeddol, yn garedig ddyfod gyda mi i ddangos y dref, yr hen gastell, a'r porthladd. Gwelais hefyd yr University. Gresyn oedd gweled rhanau mor ardderchog o hono wedi llosgi yn fewnol yn allanol ni wnaeth y tân gymaint o ddifrod.
Hawdd oedd genyf gredu y bobl a ddywedent fod Aberystwyth yn rhagorol fel ymdrochle, a lle iachusol; yr oeddwn yn teimlo hyny yn bersonol. Nid hawdd y gellid sefyll ar draed gan mor gryf y gwynt y dyddiau hyny, pan y cerddwn ar hyd y rhodfa. Ar lan y môr of flaen y terraces, teimlwn fy hunan fel o flaen battery machine fawr iechyd, a minau yn ymgryfhau yn deimladwy o dan ei effeitiau.
Dylwn grybwyll, fod yr hen frawd a phatriarch enwog, John Ellis, ironmonger, yn cofio yn garedig at y Parch. Benjamin James. Deallwn eu bod yn gyfeillion mawrion. Treuliais egwyl ddedwydd o dan ei gronglwyd; a gwnaeth gymwynas werthfawr i mi, sef rhoddi modrwy bres dda ar flaen ffon fy ngwlawlen.