Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/154

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

durdod yn dyfod i'r bobl, na rwgnacher ar un cyfrif, os gwelir ambell i Gymro yn ymegnio ac yn tra ymdrechu am dipyn o swydd fach yn y Bwrdd Ysgol, neu rywbeth o'r fath. Y maent, druain, wedi cael eu cadw ar eu cythlwng am ddigon o oesau; ac y mae ychydig o awdurdod yn blasu yn dda.

Mae yr ymdrechu am swyddau sydd yn Nghymru i'w gymeradwyo ar amryw resymau heblaw ar dir rhyddid. Ymdrechir cael yr awdurdod o afael yr eglwys wladol. Y mae hi yn wrthddrych eiddigedd, canys y mae hyd yn nod yr ysgolion dyddiol o dan ei rheolaeth mewn amryw fanau. Anhawdd iawn gan wyr y gwisgoedd gwynion ydyw gollwng yr awdurdod hon o'u llaw. Os yr ymdrechodd gwyr yr eglwys yn galed i gadw gwyr y capeli rhag cyflawni gwasanaeth claddu yn mynwent eu plwyfi, y mae gwyr y capeli yn bresenol yn llafurio mor egniol i gadw gwyr yr eglwys allan o'r Bwrdd Ysgol. Er sicrhau llwyddiant gwrth-eglwysig, mae canvassio selog yn myned yn mlaen am wythnosau cyn adeg yr etholiad. Blaenorir yn y mudiad perswadiol hwn, efallai, gan y prif swyddwyr blaenorol. Gwelais ddau o swyddwyr y Bwrdd ar ymweliad ag ardal i'r pwrpas hwn. Dygent arwyddion o frwdfrydedd. Ymddangosent yn dod i'r lle ar neges bwysig. Yr oedd eu disgyniad o'r trên yn tynu sylw. Os oeddynt yn arweddu tipyn o hunan-bwysigrwydd, yr ydoedd yn eithaf cymeradwy ar y tro, a chymeryd pob peth i ystyriaeth, er nad wyf yn awgrymu fod y fath nod yn beth cyffredin yn y wlad. Ac efallai y dylwn yma fod yn ochelgar rhag camfarnu y canvasswyr hyny, trwy briodoli nodau iddynt na feddant. Dealler nad ydwyf yn tynu yn ol fy