di." Yntau a ddeuai, ac a chwn defaid mawrion yn ei ganlyn, ei wyneb yn llwchiog ac yn chwyslyd, a'i wallt yn annhrefnus. Y gwr dyeithr, prophwyd Duw, a nesai yn mlaen ato yn sylwgar, gan ddodi ei law ar ei dalcen, ac a edrychai i'w wyneb, gan ddyweyd, "Dyma y gwr a ddewisodd yr Arglwydd." "Nid edrych Duw fel yr edrych dyn. Dyn a edrych ar y golygiad, ond yr Arglwydd ar y galon." "Dywedwch wrth y cyfiawn mai da fydd iddo;" da mewn amser, da yn angeu, da yn y farn, da i dragwyddoldeb.
Yn canlyn rhoddaf amlinelliad o bregeth y gwrandewais ef yn ei thraddodi yn nghapel Caledfryn. Cymerodd yn destyn Salm 73: 28—"Minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." Pwy a ddengys i ni ddaioni? Da yw, a theg, i ddyn fwyta ac yfed, a chymeryd byd da o'i holl lafur, a lafuria dan yr haul holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo. Dyna beth da. Wel ie, y mae yn beth da, ac yn dda penaf yr anifail, oblegid ar ol iddo gael digon i fwyta a digon i yfed, y mae ef wedi cael ei ddiwallu. Cnoa yr anifail glân ei gil yn ymfoddlongar pan y byddo wedi cael digon i fwyta a digon i yfed. Bydd prif angenrheidiau ei fodolaeth wedi eu cyflenwi. Ond ar ol i ddyn gael digon i fwyta a digon i yfed, y mae ynddo ef rywbeth a frefa ac a rua am rywbeth uwch a gwell. Da yw i ddyn fyw yn onest ac yn garedig tuag at ei gyd-ddyn. Wel, y mae hwn yn well da na'r llall, ac yn nes i fod yn dda penaf i ddyn; ac eto, nid yw hwn, er ei ragoriaeth, yn meddu y gwerth dyladwy i fod yn dda penaf dyn. "A minau, nesau at Dduw sydd dda i mi." Wel dyma rywbeth teilwng o ddyn. Ar adeg cyfansoddiad y Salm hon, yr ydoedd.