Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/170

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a chymdeithas hapus dranoeth â'r gweinidog serchus, y Parch. W. Williams.

Yn unol a gwahoddiad caredig Dr. Price, gwasanaethais Sabboth yn Calfaria.

Yn mhlith dyddorion fy ymweliad ag Aberdar a'r cyffiniau, erys ar fy nghof yn arbenig, gof-arwyddion eglwysi amgylchynol, ac eraill, a geir yn mharlwr y Rose Cottage, fel sel o'u gwerthfawrogiad o lafur a gwasanaeth y Parch. Dr. Price.

PENOD XXVI.

O Dowlais i Gaerdydd

Dau le a ddaliant gysylltiad masnachol agos a'u gilydd ydynt Dowlais a Chaerdydd. Er pan agorwyd llinell cledrffordd Rymni i Dowlais, mae y drafnidiaeth yn anferthol, ac yn fwy nag erioed. Caerdydd a dderbyn helaethaf, yn ddiau, o fuddion y fasnach, canys Dowlais a edrych yn llwyd wywlyd, ond Caerdydd a edrych yn llewyrchus fywydus.

Gweithgarwch meibion llafur Dowlais, a manau eraill mewn rhan helaeth, a gyfrif am gyflwr llwyddianus presenol Caerdydd. Rhestra y porthladd yn awr y trydydd mewn pwysigrwydd yn Mhrydain. Y mae ardderchawgrwydd a lluosawgrwydd yr adeiladau newyddion yn synfawr, yn neillduol i'r rhai hyny a adnabyddent yr hen Gaerdydd.

Ond deuer i Dowlais, mor wahanol yw yr olygfa