Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/174

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Casbach, y lle yr oeddwn i bregethu yr hwyr hwnw. Daeth Mr. Morris i'm hebrwng i'r orsaf, ac i fod yn arweinydd i mi iddi. "Yn awr," ebwn wrtho, 'gofalwch, Mr. Morris, i fyn'd a fi yn ddiogel i'r lle; yr ydych yn gwybod y ffordd i'r orsaf, mae'n debyg?' "O ydwyf," oedd yr ateb, "yr wyf yn myned yn aml i'r orsaf." Myned tua'r orsaf a wnaem, ond erbyn cyrhaedd yno, canfyddwn nad oeddwn yn yr orsaf iawn— yn lle bod yn ngorsaf y Great Western yr oeddwn yn ngorsaf y Taff Vale. "Wel, wel," meddwn, "dyma arweinydd!" Edrychwn i'w lygaid, a lled-wenai yntau arnaf. Dygwyddai fod cab gerllaw—llogais hwnw ar amrantiad i fyned a mi i'r orsaf briodol—deg mynyd oedd genyf, ond llwyddwyd i gyrhaedd yn brydlon, a dim yn weddill.

PENOD XXVII.

Ymweliad a Myfyr Emlyn.

Y Parch. Benjamin Thomas (Myfyr Emlyn), yw gweinidog yr eglwys Fedyddiedig yn Narberth, Sir Benfro, ac sydd frodor o ardal Bethabara, o'r un Sir.

Efe ydyw awdwr "Dafydd Evans, Ffynonhenry," yr hwn sydd waith a ystyrir yn un o'r bywgraffiadau goreu yn yr iaith Gymraeg. Y mae efe yn awdwr amryw gynyrchion gorchestol eraill, megys pregeth "Y Cerbydau," cyhoeddedig yn yr "Echoes from the Welsh Hills," yr "Explanatory Notes," &c.

Y mae efe hefyd yn fardd rhagorol. Mae ei ganeu-