PENOD XXVIII.
O Aberduar i Aberteifi.
Yn Aberduar y bedyddiwyd yr anfarwol Christmas Evans, gan y Parch. Timothy Thomas, yn 1788, pan yn 23ain oed, ac wedi bod yn pregethu gyda'r Presbyteriaid Arminaidd am dair blynedd a haner. Yr oedd y ffaith hon yn peri i mi deimlo dyddordeb neillduol yn y lle ar fy ymweliad.
Yn fuan wedi i mi gyrhaedd, dychwelai y Parch. H. James, y gweinidog, a'i briod, o daith ymweliadol, wedi cael peth niwaid trwy i'w ceffyl wyllt-redeg gyda'r cerbyd, ond yn ffodus nid oedd y niwaid yn ddifrifol.
Pan yn y pwlpud, cyn dechreu yr oedfa, tynwyd fy sylw gan ymddygiadau dyn mewn sêt ar y chwith i mi. Pe buasai yn Babydd ni fuasai ei ddefosiynau yn fwy dangosol. Neillduolion meddyliol a chrefyddolder a'i llywodraethai. Ofnwn ar y cyntaf y gallai beri diflasdod i mi, ond hyny ni fu.
Wrth sefyll ger beddau yr hen gyn-weinidogion enwog yn mynwent y capel, meddienid fi gan barch dwfn i'w coffawdwriaeth.
Dyrysais dipyn wrth fyned i Landysul, trwy fyned i lawr i Pencader gyda trên, yn lle tori ar draws ar linell unionsyth o'r orsaf gyntaf o Aberduar. Cerddais bob cam o Bencader i Landysul, ac oddiyno drachefn i Drefach. Yn Llandysul troais i mewn i siop hen weinidog yr eglwys, mewn hen adeilad oedranus digrif. Mae siopau hen-ffasiwnol yn llawer mwy dymunol na rhai