Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/190

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymddrylliasent wrth ein traed trwy oesau dirif. Mewn cymhariaeth i luosawgrwydd a mawredd y rhai hyn, nid yw cyfnewidiadau y chwarter canrif ddiweddaf o'n cylch ond bychain a dibwys iawn. I ti, y maent yn ddiau yn edrych yn lluosog a phwysig, er nad ydwyt yn gweled ond ychydig o honynt ac o'u heffeithiau. Ynom ni, fe ddichon nad ydwyt yn canfod nemawr gyfnewidiadau, a dymunem i'r ffaith hon fod yn gysur i ti, bererin, wrth fyned heibio fel hyn ar fyr-dro yn nghwrs blynyddau lawer. Dymunem dy adgofio o'r anrhydedd fawr roddes ein Creawdwr ni a thithau arnom ni, trwy ein defnyddio yn wystlon o sicrwydd ei addewidion i'w bobl, ac o sefydlogrwydd ei gyfamod a hwynt dros byth. Y mae yn canlyn fod cysylltiad agos yn bodoli rhyngom ni a phererinion ysbrydol, i ba rai y rhoddwyd yr addewidion, ac â pha rai y gwnaethpwyd y cyfamod. Paid tithau, gan hyny, a rhyfeddu at ein gwaith pan fel hyn yn dy gyfarch wrth fyned heibio, a phan yr ydym yn dy sicrhau o'n dyddordeb ynot, a bod yn hynod dda genym dy weled wedi dal cystal o dan feichiau trymion cyfrifoldeb bywyd. Ffarwel i ti, hen gyfaill; a phob daioni fyddo i ti, a llwyddiant digoll i gyrhaedd yn ol i America, ac yn y diwedd i gyrhaedd i'r wlad nefol fry."

Yr oeddwn yn rhy ddrylliog fy nheimladau i wneyd un atebiad ffurfiol iddynt. Ynganwn yn unig mewn iaith doredig fy mod yn ddiolchgar iawn iddynt, fwyn greigiau, am yr arwyddion a ddangosasent i mi o'u teimladau da.

Parha Tabor i arddelwi nodau cysegredig Tabor yr Hen Destament. Y gweinidog presenol yw y Parch. J. W. Maurice (un eto o'm hen gyd-fyfyrwyr).