Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/209

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

om fel teulu yn hen gartref tlws y Parch. O. F. Parry, Bordwell, N. Y. Bu iddo ef lwybr dysglaer tuag i fyny o Pen-y-maes hwnw i'w gartrefle cysurus presenol. Gerllaw Pen-y-maes mae fy anwyl chwaer Ellen, a’i gwr yn byw.

Talysarn a Llanllyfni.—Y mae yr hen esgob clodfawr y Parch. R. Jones o dan goron hardd o benllwydni. Bywyd sant fu iddo erioed. Mae eglwys lwyddianus yn Talysarn, a chapel ysblenydd.

Caernarfon.—Yma y cartrefai y teulu, o dan nawdd fy anwyl chwaer Margaret. Mwynianus i mi fu adolygu yr hen gastell; gwrando ar y crier (dall); ac ar ddyddiau penodol, pan y gwerthai y papyrau Cymreig mewn twang Gogleddol; clywed partïoedd gwladaidd gwerinawl yn bargeinio ar ddiwrnod marchnad. Mae yr eglwys mewn cyflwr pur lewyrchus, dan ofal y Parch. Owen Davies. Daeth Mr. Davies yma yn olynydd i'r enwog Cynddelw, ac y mae wedi llenwi ei le yn anrhydeddus. Nid llawer o weinidogion sydd yn Nghymru o safle a pharch y gweinidog da hwn. Heblaw ei fod yn sefyll yn uchel gartref yn ei eglwys a'r dref, y mae iddo safle o ddylanwad yn ngweithrediadau cyffredinol yr enwad yn y Dywysogaeth. Heblaw hyn, y mae yn profi ei hun yn llenor o gryn allu. Y mae golwg barchus ar ei gynulleidfa ar y Sabboth, ac y mae y capel eang yn rhwydd lawn yn y nos. Ni welais well ysgol Sabbothol yn Nghymru nag a welais yma.

Gwnaeth y teulu adnabyddiaeth a llawer o ffryndiau yn Nghaernarfon a manau eraill, ar ol ра rai y teimlent hiraeth dwys. Yn Lerpwl croesawid ni yn ymad-