Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gylchynol. Bydd gan y fintai arweinydd profedig i'w harwain yn ddiogel i'r uchelfan enwog. Mawr fydd y dymuniad wrth ddringo am i'r nengylch fod yn glir y boreu dyfodol. Braidd na fydd rhai yn gweddio am iddi fod yn glir, y rhai na feddyliant am weddio gartref am bethau mwy angenrheidiol. Ac ymddengys fel pe byddai y Tad nefol yn gwrando weithiau ar eu dymuniad, canys cymer ysgubell esmwythlyfn y gwynt yn ei law ei hunan, ac ysguba lawr y ffurfafen yn hollol lân, fel na cheid un llwchyn o gwmwl yn un man i guddio gwaith ei ddwylaw. Mae y fintai o'r diwedd wedi cyrhaedd pen y mynydd, ac y mae yr adeg i'r haul godi wedi dod. Yna ceir pob llygaid yn cyfeirio tua'r fan y dysgwylir i'r haul wneyd ei ymddangosiad-cura pob calon gan ddysgwyliad, a llenwir pob mynwes gan ddyddordeb. O'r diwedd dacw yr haul yn dod allan o'i ystafell fel gwr priod, gan ymlawenhau fel cawr i redeg gyrfa; yn edrych mor ddysglaer a phe buasai yn dod allan am y tro cyntaf erioed o weithfa nefol Duw, heb fod ar waith erioed o'r blaen, ac heb lychwino erioed ei wisgoedd. Bydd pawb yn synu at ogoniant "brenin y dydd." Yna wedi blino edrych arno ef, hwy a syllant ar y wlad amgylchynol-yr afonydd dolenog a'r coedwigoedd gwyrddion. Brwd y canmolir y prydferthion yr adeg hon y dyddiau canlynol, ac ar ol dychwelyd i'w cartrefleoedd clodforir harddwch gwlad y Cymry.

Rhai ymwelwyr a gymerant fwyniant neillduol i ddringo y rhiwiau serth, tra yr ymddifyra eraill ar lanau yr afonydd. Bydd artists yn cymeryd mawr bleser i dynu darluniau o olygfeydd mynyddig a gwyllt.