Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

canys byddai ei waith yn ymdrechu â'r bregeth yn erbyn y rhwystrau, rywfodd, yn fwy llawn o ddoniolwch. Dygwyddodd tro helbulus o'r fath hwn arno unwaith yn Brymbo, G. C., pan yn galw heibio i'r eglwys yn y lle, i roddi iddynt bregeth ymadawol, ar ei symudiad o Lerpwl i gymeryd gofal yr eglwys yn Dinas. Ar ei ffordd yno, dygwyddodd iddo golli y trên iawn, fel y bu haner awr llawn ar ol amser dechreu, cyn gallu cyrhaedd. Yn teimlo yn ofidus o herwydd y diweddarwch hwn, esgynodd gyda brys i'r pwlpud. Yn fuan, canfyddid ei fod wedi ei daflu o hwyl pregethu, ac nad oedd hwn i fod yn un o'i droion goreu. Rhoddwn yma y rhan gyntaf o'r bregeth, fel engraifft o'r gweddill.

Ei destyn oedd Luc, 12:32: "Canys rhyngodd bodd i'r Tad roddi i chwi deyrnas." Wedi gwneyd esgusawd am ei ddiweddarwch yn cyrhaedd, a chrybwyll yr achos, aeth rhagddo yn y modd a ganlyn: "Gan fod yr amser wedi myn'd, ceisiwn ddweyd tipyn yn fyr ac yn felus. Teyrnas teyrnas (byr-beswch), teyrnas—peth gogoneddus iawn yw teyrnas. ('Diolch!' ebe hen frawd dan y pwlpud.) Wel, wel, mi welaf fod Shon Gruffydd eto yn fyw, wedi bod gynt yn mrwydr fawr Waterloo rhyfedd daioni a gofal Duw am dano. Teyrnas-teyrnas. 'Rhyngodd bodd;' y fath gariad, y fath ras a gofiodd am lwch y llawr. Teyrnas, teyrnas (dau beswch byr). Mae genych weinidog rhagorol, Mr. Parry, gweddiwch lawer drosto fo. Teyrnas, peth gogoneddus iawn yw teyrnas. 'Roedd Adda yn wr boneddig mawr yn Eden, (y gwefusau yn brys-symud), ond fe gododd fortgage ar ei estate, ac fe gododd ormod; cododd ormod—methodd ei thalu yn ol (yn oslefol), do,