Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

oddeutu tair mil yn fwy na chynulleidfaoedd yr un enwad arall ar y Sabboth y gwnaed y cyfrif. Treuliais Sabboth dedwydd gyda'r eglwys yn Nebo, Ystrad, lle y mae y Parch. Anthony Williams yn weinidog. Mae yr eglwys dan ei ofal mewn cyflwr iachus, capel ardderchog, cynulleidfa pur fawr. Gwneid ymdrech neillduol y flwyddyn hono i leihau y ddyled ar y capel. Treuliais Sabboth hefyd gyda'r eglwys yn y Porth. Mae yno gapel hardd, eang a chyfleus, a chynulleidfa fawr-yn ddigon i ddychrynu pregethwr gwanaidd i sefyll o'i blaen. Ond y maent yn wrandawyr rhagorol, yr hyn sydd yn help mawr i'r llefarwr.

Mae Treorci yn ganolog yn Nghwm Rhondda, o ran lleoliad a dylanwad. Mae "Noddfa " Treorci yn ganolog. Saif yn ymgorpholiad o lawer o gynllunio. Mae gweithio mawr yn, ac wedi bod erddo―y casgliadau yn llawer; y cyrddau yn lluosog-y cwbl yn gofyn amser maith i draethu am danynt, heb ddisgyn at fanylion. Y prif symudydd offerynol yw y gweinidog. Mae ei allu cynlluniol yn nodedig, ac hefyd ei allu i gario allan ei gynlluniau. Ni esgeulusa y plant. Pregetha yn aml i'r plant. Dosbartha ei weithwyr-rhydd i bob un ei waith, ei amser, a'i le. Y mae meddwl y gweinidog yn ei waith. Mae yn gwneyd yr eglwys yn destyn myfyrdod; am yr eglwys y llefara; dros yr eglwys y dyoddefa. Mae golwg gweinidog arno; mae ganddo lais gweinidog. Edrycha ar ddynion yn grefyddol. Amcana gael dynion yn grefyddol; pregetha iddynt i'r dyben hwnw; bedyddia hwynt i'r dyben hwnw, a derbynia hwynt i'r eglwys i'r dyben hwnw. Dywedaf eto fod Noddfa Treorci, yn noddfa mewn gwirionedd. Caf-