trwy eu pleidleisiau a mynegiadau trydanol y pellebyr. Nodaf rai helyntion etholiadol yn y ddwy ran, ag yr oeddwn yn llygad a chlust dyst o honynt; a rhai eraill.
Cyfarfodydd cyhoeddus y Torïaid oeddynt y mwyaf trystfawr a chynyrfus. Yn y cynulliadau hyn, weithiau, cymerai y Rhyddfrydwyr gwerinawl fantais i amlygu eu teimladau tuag at ymlynwyr Torïaidd rhagrithiol, yr hyn a barai i'r gweithrediadau droi allan yn ryfeddol gynhyrfus. Cynelid cwrdd Toriaidd trystfawr o'r fath yn agos i'm hen gartref, ar nos Sadwrn. Cafodd yr ymgeisydd Torïaidd ei hun bob llonyddwch i lefaru, ond mor fuan ag y cododd un o'i bleidwyr cynffynol ef i draethu ei len, yr oedd y twrf yn fyddarol. Ofer oedd i'r un ffug-bleidiwr agor ei enau. Er i amryw o'r cynffonwyr wneyd ymdrech deg i gael gwrandawiad, yr oedd pob ymdrech yn ofer. Tra nad oedd gair i'w glywed oddiwrth y llefarwr, gwelid ysgwydiadau ei freichiau, a symudiadau ei wefusau. Braint werthfawr i'r ffug-bleidwyr y noson hono fu llwyddo i adael y gymydogaeth, a myned adref heb gael tori eu hesgyrn. Cawsant brofi beth oedd pwysau cawodydd llaith-drymion o'u holau; ac hefyd cawsant eu gwneyd yn lliwiol oddiallan yn debyg fel yr oeddynt eisoes oddimewn.
Ni fum bresenol ond yn nghyfarfodydd y Rhyddfrydwyr. Yr ymgeiswyr a wrandewais ni amlygent ddoniau neillduol fel llefarwyr cyhoeddus. Yr oedd rhai o honynt yn dra anystwyth eu parabl, ac yn fynych byddai yr araeth yn cael ei hatal yn ei chwrs yn mlaen, gan rwystrau gyddfol a geneuol, yn debyg fel yr atelir cwrs ffrwd brysur gan anwastadrwydd afrywiog y pant-le y rhed hyd-ddo. Wrth wrando ambell un teim-