Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

drygau tirol ac eglwysig ag y dylasid eu symud. Rhoddwn iddynt restr o'r drygau hyny, ac engreifftiau o waseiddiwch y bobl dan law y gorthrymwyr cyfoethog. Dywedwn y dylasent ymroi i ymosod ar y drygau crybwylledig. Amlygwn ofn fod y drygau hyny yn cael eu trafod ganddynt yn eu cyrddau politicaidd a dwylaw rhy dyner.

Nid oes yr un gweinidog yn Nghymru yn fwy selog fel Rhyddfrydwr, na'r hynod a'r hyglodus Barch. Robert Jones, Llanllyfni. Un boreu Llun, pan y dychwelai o fod yn pregethu y Sabboth yn Aber, cyfarfuwyd ag ef yn ngorsaf Bangor gan genad oddiwrth y Rhyddfrydwyr, yn crefu arno fod yn bresenol mewn cwrdd mawr Rhyddfrydol yn Nghaernarfon y noson hono; yntau a gydsyniodd. Nid oedd un llefarwr mor boblogaidd ag efe. Yr oedd ei ddull yn hynod, ac eto yr oedd efe yn hollol ddifrifol. Dywedai iddo fod unwaith yn Nghaerdydd pan oedd dyn yn cael ei crogi, ac iddo fyned i weled yr olygfa, ond iddo fod am amryw wythnosau cyn dyfod ato ei hun ar ol hyny. Er hyny y buasai yn gallu dal gweled crogi hyd yn nod Faptist fuasai yn pleidleisio gyda y Toriaid. Ebai efe, "Saith for a saith fynydd a fyddo rhyngwyf a phob Bedyddiwr a fotia gyda y Torïaid."

Yr ydym yn bresenol yn nesu yn mlaen at raiadrau y cynhwrf.

Dygwyddais fod yn ardal y Cefnmawr ar ddydd yr etholiad yno. Gweithiai y Torïaid yn egniol i sicrhau pleidleisiau. Gwneid defnydd effeithiol o ddylanwad mawr Syr Watkin yn y parth hwnw. Cipid personau o'r neilldu cyn eu myned at y bwth, er ceisio eu henill.