Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iodd y cyrddau gyda chymeradwyaeth. Pregethodd y brawd Evan Thomas yn neillduol dda. Tybiaswn na chlywswn ef erioed o'r blaen cystal. Hoffais ledneisrwydd ei natur ef wrth ei weled yn cymeryd llwybr amgylchog oddeutu y beddau yn y fonwent, yn hytrach na chamu arnynt a throstynt, fel y gwelid oddiwrth olion llwybrol, fod eraill yn gwneuthur.

Ychydig a welwn yn Moriah o'r personau oeddynt golofnau yr achos ugain mlynedd yn ol. Hunasai yn yr angeu, Edmund Edmunds, Ysw., Railway Inspector; Edward Jones, Ysw., Station Master, ei briod, a'r mab Mr. Alfred Jones; Mr. Henry Rosser, "y Daran," a'i briod; Mr. William Jones, Pen-y-pant; yr hen frodyr rhagorol, Thomas Bevis a Dafydd Shon Dafydd a'u gwragedd; Mr. David Benjamin (Dewi Bach); Mrs. Rees, Derwallt, a llawer eraill. Mae y brodyr Charles Harries, James Llewelyn, Edmund Llewelyn, a'r chwaer ragorol Mrs. Edmunds, ac ychydig eraill o'r rhai gynt, yn aros hyd yr awrhon. Dymunwn yma goffhau am letygarwch y brawd Edmund Edmunds a'i briod, i weinidogion y Gair. Eu ty hwy, fynychaf, oedd arosfan yr enwog Barch. D. Rhys Stephen, pan yn galw heibio. Galwodd y Parch. John Williams, awdwr yr Oraclau Bywiol, heibio iddynt unwaith; ac adroddent wrthyf am dano, ei fod mor wanaidd ei iechyd a nervous y pryd hwnw, fel y dymunodd am gael atal yr awrlais ag oedd gerllaw ei ystafell wely, rhag iddo ymyraeth a'i gwsg. Anfynych y ceid neb yn fwy hynaws wrth eu gweinidog hefyd, na hwynt-hwy. Mae Mrs. Edmunds yn weddw er's llawer blwyddyn, ac yn bresenol yn cartrefu gyda ei merch a'i mab yn nghyfraith,