PENOD X.
Sain Newydd i'r Saesoneg.
Un o'r neillduolion a dynodd fy sylw pan ddaethum gyntaf i America, oedd sain-lafar y bobl. Clywn hwy yn siarad Saesoneg gyda sain wahanol i Saeson Lloegr. Deallwn erbyn hyn fodiaith, a'i sain, yn ddau beth gwahanol, ac y gallasai iaith fod yn unffurf, a'i sain fod yn gwahaniaethu mewn gwahanol wledydd, ac yn mhlith gwahanol genedloedd.
Cyn hir ar ol bod yn Nghymru ddiweddaf, tybiaswn y disgynai ar fy nglust sain newydd i'r Saesoneg gwahanol i ddim y sylwaswn arno o'r blaen. Yn y man, deallwn mai yn mhlith dosbarthiadau diwylliedig yr oedd yn amlycaf, a gwnaeth adnabyddiaeth helaethach gadarnhau fy syniad.
Yn y sylwadau canlynol, ceisiaf roddi darnodiad byr o'r sain newydd hon, a pheth o'i hanes a'i chyfodiad. Os defnyddiaf y termau ynganiad, tonyddiaeth, sain lafar, seiniadaeth, parabl-sain, byddaf yn tybio yr un peth a phan yn dweyd sain.
Mae yr ynganiad hwn yn dra gwahanol, cofier, i'r lediaith Gymreig gyffredin yr arswydir cymaint rhagddo, ac a warthruddir mor aml. Nid yw hwn yn aflafar fel hwnw. Nid yw hwn yn grâs fragawthus fel hwnw. Nid yw hwn yn peri hunan-ofn fel hwnw. Mae yr ynganiad hwn o uwch gradd a llinach; mae iddo organau perffeithiach; mae iddo sain-lafar ceinbêr. Mae sain hwn yn gymeradwy gan y galon yn ogystal