y bedd ar uchelfan, y man mwyaf dewisol yn y fonwent. Mae cofadail hardd a chostfawr ar y bedd. Rhyfedd mor barchus-henafol yr edrych yr hen eglwys. Yn sicr, mae yn wrthddrych tra gwrthgyferbyniol fel gwaith celfyddyd, i adeiladwaith ardderchog y ddwy bont gyfagos-pont Menai a'r Tubular Bridge-un uwchlaw a'r llall islaw iddi.
Daliodd parch i'r marw fi gryn amser ger y bedd enwog. Un cyfleusdra a gefais erioed i wrando ar y Parch. Henry Rees yn pregethu; bu hyny yn Lerpwl, yn 1858. Yr oeddwn y pryd hwnw yn y ddinas hono, ar fy ffordd i'r Athrofa yn Hwlffordd, ac yn aros am ddyddiau i gael cwmpeini myfyriwr. Dygwyddodd fod yr Annibynwyr yn cynal eu Cymanfa ar yr adeg. Boreu Sabboth aethum i gapel y Parch. John Thomas. Er fy syndod, a'm boddhad, pwy oedd y pregethwyr ar y tro, ond y diweddar Barch. Thomas Jones, Treforris y pryd hwnw, a'r hybarch Henry Rees. Cafwyd oedfa neillduol. Yr oedd Mr. Jones ar ei uchelfanau, a'r Parch. Henry Rees yn ei ddilyn gydag hyawdledd mawr. Cofiaf ranau o'r pregethau hyd yr awrhon.
Pan oeddwn wrth fedd Mr. Rees, yr oedd yr oedfa hono, a'r pregethau hyny, yn dyfod yn neillduol fyw i'm cof. Mae ei goffadwriaeth yn fendigedig. Bydd ei ddylanwad bendithfawr yn aros yn hir ar genedl y Cymry.
Fel yr awgrymais wrth son am fy ymweliad a Blaenau Gwent, bum wrth fedd Nefydd. Saif ei gofadail ar fin uchaf y fonwent, ger y capel. Da y gweddai iddo ef orphwysfan mewn lle uwchafol a blaenorol. Yr oedd efe yn rhestru yn mhlith y goreuon yn ei fywyd. Cyd-