Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Naw Mis yn Nghymru.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tranoeth, yr oedd genyf i fyned i Soar, Llanfaethlu. Os oedd yr heolydd yn gauedig gan eira o'r blaen, yr oeddynt ar y ffordd hon yn llawer mwy felly. Ni allaf ddesgrifio mor annheithiadwy y ffordd. Cefais dipyn o ddefnydd sirioldeb, modd bynag, wedi cyrhaedd cymydogaeth Soar, wrth gyrchu at dy y gweinidog, yn nghymdeithas dau neu dri o frodyr oedd yn cyd-deithio, yn ngwaith un o honynt, wrth fethu cael daear galed, yn "enill ei bedolau" yn yr eira.

Y mae eglwys Soar ac eglwys Rhydwyn yn perthyn i'r un esgobaeth. Mr. Roberts, y gweinidog, sydd ddyn ieuanc parchus.

Nid oedd rhestr fy nghyhoeddiadau yn cynwys Rhydwyn. Da iawn hyny, yn gymaint a bod yr hin mor anffafriol, a'r heolydd mor anhygyrch. Pe yn gyfleus, buasai yn dda genyf allu galw yn Rhydwyn.

Brodor o Rhydwyn, Llanrhyddlad, ydyw y boneddwr adnabyddus T. Solomon Griffiths, Ysw., Utica, N. Y. Pa nifer bynag o dalentau a gafodd efe yn Rhydwyn. i farchnata a hwynt, gan ei arglwydd, gellir bod yn sicr ei fod ef yn ychwanegu atynt yn anrhydeddus yn ei wlad fabwysiedig.

Yn Llandegfan, ar fin afon Menai, yr oeddwn y Sabboth olaf yn Mon. Eglwys fechan sydd yno, ond mae y frawdoliaeth yn ffyddlon. Yn ddiweddar, bu farw yno hen frawd nodedig am ei ffyddlondeb, o'r enw W. Williams, ar ol yr hwn teimlid colled fawr. Mr. Williams, y mab, gyda'r hwn y lletywn, a geisiodd genyf wneyd englynion coffadwriaethol i'w anwyl dad. Dywedai iddo ef ei hun wneyd cynygion at gyfansoddi llinellau ar ei ôl, ond iddo fethu. Trwy ei fod yn ymbil yn daer