Daeth Sec ati hi'n sydyn, na ŵyr neb o ble, pan oeddwn i yn Standard I., a rhoddwyd ynte'n Standard I. Rydwi yn Standard IV. yrwan, ond dal yn ffyddlon yn Standard I. y mae Sec o hyd. Doedd fawr o bwys ymha Standard y basech chi yn ei roi o, cyn belled ag yr oedd dallt pethe yn y cwestiwn, ond gan mai Standard I. fu'n ddigon caredig i'w dderbyn o, mae'n ymddangos nad ydi ynte am droi ei gefn ar hen ffrynd. Dene a ddywed Joseph y Titshiar.
"Wel, Sec," medde fi, "be wyt ti'n ei neud yma?"
"O-o-es ge-n-n-o-t ti fa-a-ra b-b-ri-i-ith, Ne-ene-edw?" medde fo.
Dwad adre o de parti'r Ysgol Sul yr oeddwn i, ac yr oedd yn naturiol imi fod wedi celcio tipyn o fara brith, fel y bechgyn erill i gyd, a'r un mor naturiol i Sec dybio hynny.
"Oes, was," medde fi.
"Ga-a-i da-a-me-ed?" medde fo,—"i-i-sh-i-o—"
Ond mi dorres ar ei draws o. "Dene be' sy' i gael am beidio â dwad i'r Ysgol Sul," medde fi, ac i ffwrdd â mi, a thros y gamfa, ac i'r Nyrs Goed Llus. Erbyn hyn roedd hi'n mynd braidd yn dwyll. Pan yn nyfnder y nyrs,—"Ne-ene-ene—" medde rhywbeth dan fy nhraed i, ac mi roddes waedd a neid. Fedrwn i symud dim am funud, a dene'r "Ne-ene-ene—" hwnnw wedyn dan fy nhraed i. Beth oedd o ond sŵn bwrlwm y ffos fach dros garreg. Mi godes fy nghalon, ac ymlaen â fi yn bur ddewr, nes clywed,—"i-i-ish-sh-sh-i-o—" yn fy ymyl wedyn, a'm fferodd. Beth oedd o ond cangen yn rhwbio'r wal.