ddwylo a gwadne ei draed o. Peth da, medde nhw, ydi asaffeta, ond i chi ei gymyd drwy eich dwylo a'ch traed. Gwn i mai peth ofnadwy ydio wrth ei gymyd drwy'ch ceg. Lawer gwaith y rhedes i nol asaffeta i Abram pan oedd y glaw yn patshio, a sein y "Black Crow" yn sgrechian, a'r nos mor dwyll nes i chi fethu gweld eich llaw. Ond fel roedd y gore, doedd Abram ddim yn sâl na dim byd yn y capel y nosweth yma, fel yr oedd hi'n nosweth i mewn arna i.
A'r nosweth yma, hefyd, roedd pawb gartre. A lle digalon sydd yma ar ol hanner awr wedi saith yrŵan, yn enwedig pan nad ydi Huw ddim gartre, ac Wmffre a fi yn byw ymhell oddiwrth ei gilydd. Am saith o'r gloch ar nosweth fel hyn mae'r swper wedi ei glirio, a'r plant lleia yn eu gwlâu. Wedi golchi'r llestri y mae nhad a mam yn tynnu eu cadeirie at y tân, neu'n hytrach mae nhad yn tynnu'r sgrîn, a mam y setl, ac os ydw inne am dân, 'does dim i'w neud ond eistedd ar y blocyn. Dechre smocio ac edrych i'r simdde y mae nhad fel rheol, a dechre gweu neu wnïo y mae mam, a gorffen trwy bendympian.
Ar ol i mam olchi'r llestri y nosweth hon, mi gymerodd pawb eu lle,—nhad â'i draed ar y ffendar, yn smocio a gneud cyrls o'r mŵg, a'u gwylio'n toddi i'w gilydd, ac yna'n mynd yn un llinynne i fyny'r simdde. Arhosai nes i'r llinyn ola ddiflannu, yna mi ddechreue wedyn ar neud y cyrls mŵg, a hynny am allan o bob hyd, heb gofio o gwbwl fod yr amser yn mynd. Yr ochor arall roedd mam yn gweu, ac am dipyn clywid sŵn y gweill yn clician yn gyson, yna'n arafu, a sefyll. Edrych trwy'r Beibil yr oeddwn i am adnod â'r gair