o roddi chwilio am eirie fel "echdoe," ac felly ymlaen, yn dasg yn yr Ysgol Sul, oherwydd wyddoch chi byth pa bryd y daw gwybodaeth o'u lle nhw yn y Beibil yn handi, fel ar adeg fel hyn i mi. Yna eis i edrych y geiriadur—Geiriadur Dr. Davies—dan yr un geirie, ond doedd dim i'w gael am gysylltiad gwynt y dwyrain â bronteitus. Yna eis i edrych dan yr enw Teitus, ond doedd dim byd ar hwnnw chwaith. O dipyn i beth eis i feddwl ymhle yr oedd y dwyrain tybed. Ar fy nglinie ar gader wrth ben y bwrdd yr oeddwn i ar y pryd, yn pwyso mhen ar fy nwylo a'm penelinoedd ar y bwrdd. Yna eis i feddwl am y doethion, ac ymhen tipyn mi welwn y seren yn codi yn y dwyrain, a'r doethion yn dwad yn un haid ar ei hol hi. Haid o bobol dduon oedden nhw, yn rhuthro ar draws ei gilydd, yn ddigon i ddychrynnu gwraig â babi bach ganddi, a rhedeg am y cyntaf roedden nhw am Fethlehem. Ar y funud pan oedden nhw yn nesu at y lle, dene ddyrnod annaearol imi ar bont fy nhrwyn, nes imi weld miloedd o sêr, ond dim un doethyn yn eu dilyn. Neidiodd mam ar ei thraed, a phan welodd beth oedd yn bod, dene hi'n dechre llefaru. Wedi bod yn pendympian oeddwn inne a mhen i wedi llithro'n sydyn o'n nwylo gan ddyfod i gyfarfyddiad heb ei ddisgwyl â Geiriadur Dr. Davies. Wedi imi olchi nhrwyn oddiwrth y gwaed, safodd mam uwch fy mhen yn traddodi araith rymus ar beryglon pendympian fel gwendid ym mywyd bachgen gobeithiol deg oed. A'r unig sŵn a glywn pan oedd hi'n cael ei gwynt ati oedd tipiade'r cloc bach, y wich fach yn ei brest hi, ac "w-pŵ, w-pŵ, w-pŵ," cyson o gyfeiriad nhad. Ar adeg fel hyn pan