"Gwaga'r boced arall," medde fo, gan newid ei afael o'r naill glust i'r llall. Wel, doedd dim i'w neud ond gwagu'r llall, a gosod y cnau efo'r lleill ar ei ddesc o, a gweiddi fel porchell mewn llidiard, o dan bob pinshed. Wedi eu gwagu nhw i gyd, doedd y bensel ddim yno chwaith. Wyddwn i ddim be i neud, o achos roeddwn i'n dechre gweled fod cnau'r pocedi erill, pocedi fy jeced, mewn peryg o fynd. A mynd ddaru nhw, nes bod un domen fawr o gnau ar ddesc y scŵl, ond wedi'r cwbwl doedd ene'r un bensel. Mi chwilies ac mi chwilies, a Joseph erbyn hyn yn gafael o'r tu ol imi yn fy nwy glust. Rhois fy llaw wedyn yn y boced yr oeddwn arfer cadw mhensel ynddi hi; tynnes y boced allan, ac er fy syndod, beth oedd yn y gwaelod ond twll, a rhaid bod y bensel wedi llithro trwy hwnnw. Pan welodd Joseph y twll, gollyngodd fy nghlustie. Rhaid oedd imi ddal fy nwylo wedyn a chael dau slap, ond nid cyn iddo fethu lawer gwaith, o achos, rydech chi'n gweld, naturiol iawn ydi i greadur dynnu ei law yn ol heb yn wybod iddo'i hun, pan y mae'r ffon yn dwad i lawr, a chodi pen glin y goes sydd ar yr un ochor â'r llaw honno yr un pryd. Mae'n rhaid eu bod nhw'n gweithio ar yr un llinyn, fel coese a breichie mwnci ar bric. Pheidies i ddim â gneud hynny chwaith, nes teimlo fod dyrnod mewn pen glin yn brifo mwy na dyrnod mewn llaw. Rhaid bod y llinyn wedi torri ar ol y dyrnod hwnnw, am na chododd fy mhen glin wedyn wrth i mi dynnu fy llaw i ffwrdd. Wedi i mi fynd i'm lle, dyma Joseph yn deyd gair wrth yr ysgol i gyd. Mae o'n fwy llym na'r scŵl. Mae nhw'n deyd ei fod o'n disgwyl cael mynd yn scŵl ei hun cyn bo hir.