"Ochneidiodd y gŵr bynheddig," medde fo, "a throdd draw. Ochneidiodd Lias Tomos, ynte, ochenaid swyddogol, a daliodd i weithio'r llythyren 'r'."
Cododd Tomos Owen ar ei draed, ac aeth i edrych trwy'r ffenest, a ninne fel llygod, a'r trane'n rhuo'r tuallan, a'r glaw fel tase rhywun yn ei dywallt o fwcedi. Daeth yn ei ol, ac ysgydwodd ei hun fel pe tase fo'n trio 'i ddeffro ei hun. Ac aeth yn ei flaen.
"Ryw ddegllath oddiwrth y garreg yma," medde fo, "roedd carreg farmor odidog. Ac am ysbaid wedyn edrychai'r gŵr bynheddig i bobman yn y fynwent ond ar garreg dywodfaen Ifan Owen a'i wraig, ac ar y garreg farmor ddegllath i ffwrdd. Ac mi ddeyda i chi'r rheswm pam.
"Does dim Ty'n Llwyn yn bod i blant heddyw,—dim ond lle yng ngodre Coed y Garth o'r enw Cyt y Bugiel. Ond mi fu Ty'n Llwyn yno unweth, a chenhedlaeth ar ol cenhedlaeth yn byw ynddo fo,—yn cael eu geni ynddo, yn priodi ohono; yn gofidio, a llawenhau; yn pechu a chrefydda; yn torri clonne a'u cyfannu; yn diodde a marw. Ac un o'r rhai ola i fynd drwy'r driniaeth yno oedd Ifan Owen.
"Er nad oedd mynd i fyw i Dy'n Llwyn yn rhyw ddyrchafiad mawr, mi lawenychodd Ifan Owen â chalon lawn pan aeth yno o'r capel, fore ei briodi ag Elin y Llety, â'i wraig ifanc yn pwyso ar ei fraich. Mi lawenhaodd uwch ben geni pob un o'i blant, ac mi ddiolchodd yn ddwys i'r Brenin Mawr bob tro y dychwelai'i wraig yn ol i'r gornel. Mi ddioddefodd Ifan Owen hefyd wrth edrych i wynebe 'i wraig a'i blant, a'r diodde yma a'i hanfonodd o i'w fedd yn beder ar bymtheg ar higien oed."