Mi drychodd hithe arno am dipyn, ond gwelodd ei wyneb yn llwydo fwyfwy, yna mi drodd ei gwyneb a syllodd yn gadarn i'r tân. Lle da, mhlant i, ydi tân am sychu dagre, hyd yn oed cyn iddyn nhw adael cartre. Mi grwydrodd Ifan Owen lawer o ffarm i ffarm, ond nid oedd ar neb eisio gweithiwr a ddaliwyd yn gorffwyso gefn dydd gole. Mi fu ymhobman yn ei dro ond gyda Mr. Richmond, y Daran Fawr. Doedd unrhyw was yn ddigon rhyfygus i'w iselhau ei hun trwy ofyn am waith i Mr. Richmond pe tase rhithyn o obaith am le yn rhywle arall, o achos onid Mr. Richmond oedd y gŵr, ar ddiwedd cynhaea gwlyb, a regodd Dduw o dop y dâs. Roedd yr ardal yn ofni cynhaea gwlyb arall am y beiddgarwch ysgymun yma. Ac mi draddododd Mr. Huws yr Hafod araith ddwys i'w weision ar barchedigaeth. O achos ofnai Mr. Huws Dduw, a chredai mai Duw a lywodraethai'i gynhaea o."
Yr oedd golwg ofnadwy ar Tomos Owen erbyn hyn, a wyddem ni ddim yn iawn pa un ai bod efo fo yn yr efel, neu allan yn y trane oedd fwya dychrynllyd. Roedd o'n cerdded o gwmpas yr efel ers meityn ac yn bwrlymu siarad, a'i lygid o'n wyllt ac yn gochion. Yn y fan yma mi safodd yn sydyn, a bu am dipyn heb ddeyd dim, a ninne'n edrych ar ein gilydd, a Wil Tŷ Hen yn rhyw ddechre crio. Eisteddodd Tomos Owen i lawr, a dechreuodd wedyn yn fwy tawel, a chryndod yn ei lais.
"Wel, mhlant i," medde fo'n ddwys, "mi feddyliodd Ifan Owen gymint am ei gyflwr di-waith nes anghofio'i nychtod, ac mi ddaeth rhyw nerth iddo i grwydro na feddyliodd erioed amdano. A thystiai bob nos wedi chwilota cyson trwy'r dydd