"Edward Roberts," medde Joseph yn y bore, "tyn y peth ene allan o dy gêg." Roedd o'n meddwl mai llond fy moch o grabas, neu rywbeth felly, oedd yn gneud y chwydd, o achos tase'r chwydd yn chwydd dannodd, mi fase gen i wlanen goch am fy mhen, a hogle tyrpentein drostai i gyd; ond doedd gen i ddim byd felly. Dechre nadu ddaru mi beth bynnag, ac mi ffeindiodd Joseph fod rhywbeth mawr o'i le, am na fydda i byth yn nadu. Esboniodd Wmffre iddo fo mai wedi cael cic gan ceffyl oeddwn i, a chlywes i ddim chwaneg am y peth. Hwyrach fod cydwybod Joseph yn ei bigo fo am y cnau rheini.
Mi edryches drwy mysedd ar het f'ewyrth ar yr hoel yn y capel dydd Sul, pan oedden nhw'n gweddio, ac roedd hi'n edrych yn dda iawn a chysidro.
O! ia, mi anghofies ddeyd wrthych chi mod i wedi ffeindio fy mhensel yn fy hosan, wrth fynd i ngwely nosweth helynt y cnau.