Fel y deydes i, mae llawer o amser tan hynny, tydi Wmffre na finne ddim wedi gadael ein hysgol na dechre shafio eto, ac mae'n rhaid gneud hynny cyn mynd i Affrica. Wedi meddwl am y pethe yma, a rhoi ein penne ynghyd, mi feddylies i hwyrach y medrem ni neud zebras. Anifeilied gwynion, fel mulod, a llinelle duon ar eu traws nhw, ydi zebras, medde llyfr yr ysgol, a mul gwyn ydi Spargo'r Felin.
"Mi ddeyda iti be nawn i," medde fi wrth Wmffre ryw bnawn Gwener, "mi ffeindies i hen dun hanner llawn o baent, mewn cornel yn stabal y Crown, ddiwrnod y cinio clwb. Mae o yno ers blynyddoedd yn siwr i ti, o achos roedd o wedi 'i guddio â gwê prŷ copyn, a does neb ei eisio, neu mi fase wedi mynd cyn hyn."
"Iawn," medde Wmffre, "ond sut y cawn ni o oddiyno?"
Y diwedd fu i Wmffre lwyddo i gael mynd i'r llan ar neges dros ei fam ddydd Sadwrn, drannoeth felly, a llwyddes inne i neud yr un peth, ac yr oedd ein mame'n ein gweld yn fechgyn da'r Sadwrn hwnnw, o achos mae'n gâs gennym ni'n dau negesa. Rhyw waith geneth ydio rywsut. Doedd ene neb o gwmpas stabal y Crown, a dyma finne i mewn. Yno yr oedd y tun paent ynghanol hen gelfi, â llwch a gwê prŷ copyn drosto fo. Wedi mynd i'r Cae Cnau Daear, dyma chwilio'r tun, ac yr oedd o'n hanner llawn o baent, ond fod y paent bron wedi sychu. Rhoddodd Wmffre ei fys ynddo fo, "Neiff o mo'r tro," medde fo, "paent gwyrdd ydi hwn, a marcie duon sydd gan zebra."
"Hidia befo," medde finne, "does yma neb y ffordd yma wedi gweld zebra, a wyddan nhw ddim amgenach."