dda iawn, roedd o'n codi gormod o baent, fel brwsh gwyngalchu, a'r paent dipyn yn dene, ond doedd mo'r help. Mi gawsom well hwyl ar yr ail rês. Gan fod y paent dipyn yn dene, rhedai'r diferion braidd ormod ar chwâl, ond pwy feder neud zebra'n berffaith, mwy na dim arall, y tro cynta, yntê? Yr oedd y drydedd rês yn well fyth. Efo'r gynffon a'r coese y cawsom ni'r drafferth fwya. Fedrem ni yn ein byw rwystro'r llinelle i redeg i'w gilydd. Doedd dim i'w neud ond rhannu'r fargen, a phaentio'r coese a'r gynffon i gyd yr un lliw. Erbyn hyn yr oedd Gweno'n dechre mynd yn anesmwyth, ac wedi inni orffen fasech chi ddim yn ei nabod hi. Yr oedd rhesi gwyrddion ar draws ei chefn, a'i hochre, a'i gwddf, a'i choese a'i chynffon yn wyrdd i gyd. Prin y cawsom ni roi'r brwshied ola arni nad oedd hi i ffwrdd ar garlam, ac yn troi a throsi, a dyrnu ei hun â'i chynffon. Gresyn oedd hynny, oherwydd does ene ddim llinelle croesion i zebra, a dene oedd y gynffon yn neud. Ond roedd ysbryd zebra'n dechre mynd iddi hi, roedd hynny'n glir, o achos welsoch chi rioed y fath brancio a rhedeg. A deyd y gwir, doeddem ni ddim, yn ddistaw bach felly, yn gweld rhyw lawer o debygrwydd ynddi i zebra wedi iddi fynd dipyn oddiwrthym ni, ac aethom ymhellach wedyn er mwyn cael golwg well arni hi.
"Wmffre," medde fi, "be wyt ti'n ei feddwl ohoni hi, ydi hi'n llwyddiant?" Tynnodd Wmffre'r darn papur o'i boced yr oeddem ni'n gweithio wrtho. Llun zebra oedd o, wedi ei gymyd o lyfr yr ysgol. Roedd y ddolen yn rhydd o'r blaen. Nid ni a'i torrodd hi allan. Edrychodd Wmffre'n fanwl ar y llun, ac wedyn yn hir ar Gweno.