Spargo fod dipyn tebycach i zebra, o achos roedd o'n wahanol iawn i'w hen ewyrth. Fase Spargo byth yn rhedeg yn erbyn pont y relwe heb ei gweld hi, nid am ei fod o'n well am weld, ond am ei fod o'n salach rhedwr, hynny ydi, fedre fo redeg dim.
Cawsom well hwyl ar Spargo, roedd practeisio ar Gweno wedi bod yn help inni, ac mi fasech yn ei gamgymeryd am zebra wedi inni orffen efo fo,—tase chi heb weld zebra o'r blaen. Y cwestiwn oedd ymhle i roi Spargo i sychu, ac yr oedd ynte'n dechre magu ysbryd zebra. Ac yn yr ysbryd hwnnw mi fase'n rhwbio ac yn cicio tasen ni'n ei rwymo.
"Dyma nawn ni," medde fi,—yr oedd yno lidiard fawr yn ymyl, llidiard y mynydd, ac mi welodd Wmffre'r cynllun cyn gynted a minne. Dyma ni'n gwthio breichie'r drol rhwng styllod y llidiard, ac yn rhoi Spargo yn ei ol ynddi yr ochor arall i'r llidiard, wedi ei chau hi. Yr oedd Spargo, felly, yn iawn yn y drol fel o'r blaen, ond fod y llidiard rhyngddo fo a'r drol. Fedre fo ddim symud oddiyno. Tase fo'n bacio, fedre fo neud dim ond bacio i'r llidiard, a tase fo'n tynnu, fedre fo ddim tynnu'r drol drwy'r llidiard. Fedre fo ddim mynd i'r ochre chwaith i rwbio. Ac yr oedd o erbyn hyn yn bur ysbrydol, fel zebra'n union. Dene lle roedd o felly i'r dim, yn aros i sychu.
Toc, dyma sŵn traed yn dwad o'r pellter, a phwy oedd yn dwad ond yr hen Bitar Jones y Felin, wedi hanner meddwi, a doedd dim i'w neud ond cuddio. Safodd yn ymyl y drol ac edrychodd yn hurt arni. Wedyn edrychodd ar Spargo, a theimlodd y llidiard rhyngddyn nhw. Fedre fo mo'u gweld nhw'n glir iawn, yn enwedig Spargo, am ei bod yn dechre nosi, ac ynte fel roedd o. Crafodd ei ben, "a-wel,