beth mor debyg i ysbryd, fel yr oedd pobol yn deyd, nes y baswn i wedi dychrynnu i ffitie, onibai bod Jinny efo mi yno.
Sôn am ddisgwyl, dene ddisgwyl, a disgwyl, am i'r mafon duon ddwad ac aeddfedu. Yr oeddwn i ar fentro i Sgubor Robert Green amdanyn nhw bob dydd i Jinny, ond bod fy nghalon yn dwad rhwng fy nannedd bob tro y meddyliwn am yr ysbryd.
Un diwrnod roeddwn i'n dwad heibio i'r Sgubor, wedi bod yn hebrwng Robin bach Ty'n Llidiard,—dene'r diwrnod y deydodd o ei fod wedi cyffwrdd cyrlen i Jinny. Edrychai'r haul fel tase fo'n rhyw hel ei hun at ei gilydd i fynd i lawr, a phwy a gyfarfyddwn i'n dwad i 'nghyfarfod ond Jinny, fel tase hi ar frys, ond rwy'n siwr mod i wedi ei gweld yn codi oddiar ei heistedd oddiar garreg yn ochor y ffordd pan ddois i i'r golwg.
"Nedw," medde hi dan wrido, "ymhle y mae'r mafon duon?"
"Rwan amdanyn nhw," medde fi. "Ddowch chi efo mi?"
"Do i," medde Jinny.
Ac i mewn â ni i Sgubor Robert Green,—y fi yn gynta i sathru'r coed mafon. Roedd yn rhaid dringo darn o wal, a llusgo Jinny ar fy ol. A dene ddechre hel. Welsoch chi rioed fafon tebyg. Heliai Jinny nhw oddiar lawr, a minne'n dringo'r walie, ac yn eu hel i fy nghap, ac yn dwad â chapeidie iddi hi. Dene'r munude difyrra aeth dros fy mhen erioed, ac wedi anghofio popeth am yr ysbryd. Dringes i ben un o'r hen ffenestri, a'r llwyn mafon yn pwyso. Trois i weiddi ar Jinny, ond dene lle roedd hi â'i phwyse yn erbyn y wal yr ochor bella, yn rhythu i'r gornel dan y llwyn yr oeddwn i uwch