VI.—'RHEN NEDW.
Rhaid mod i'n hen, yn hŷn na John Huws, y Groshiar, a fo ydi'r dyn hyna'r ffordd yma. Mae o'n byw wrth y Felin, a dyn dall ydio, a does gyno fo ddim gwallt, ond tipyn bach o beth rhwng du a gwyn yn hongian, fel cynffon chwiaden ar law, o'r tu ol, ac mae'i groen o'n felyn, ac yn crychu fel swigen mochyn ar ol iddi sychu wedi ichi fethu ei chwthu hi'n iawn, ac y mae'i wiscars o rhwng du a gwyn, ond y stripie melyn sydd dan ei geg o.
Roeddwn i yn y capel nos Sul dwaetha, ac yn teimlo reit dedwydd yno, fel roedd pethe'n bod. Waeth gen i pwy fydd yno'n pregethu ar Nos Sul, mi rydwi'n gyfforddus iawn yno, os bydd y bleinds i lawr, a'r darn crwn o'r ffenest o'u tucha nhw'n ddu, a'r lampie a'r canhwylle'n ole. Mae'n well gen i'r capel ar Nos Sul yn y gaea, na'r ha. Dydi John Huws chwaith ddim yn edrych mor hyll yr adeg honno. Yn wir, mae'r hen bobol yn y sêt fawr i gyd yn edrych yn neis, yn canu ei hochor hi, a phob un ond John Huws yn cau eu llygid. Eu hagor nhw y mae o, er ei fod o'n ddall bost.
Pan oedden ni'n canu nos Sul dwaetha, yn y cyfarfod gweddi—wel, doeddwn i ddim yn canu fy hun, cnoi nghadach poced oeddwn i,—roeddwn i'n edrych ar yr hen ddynion yma, ac yn deyd yn ddistaw, wrth edrych ar bob un ohonyn nhw yn ei dro, "rydwi'n hŷn na thi, a thithe, a thithe, a thithe," nes mynd drostyn nhw i gyd. Wn i