iawn, fel y gwyddoch chi, heblaw ei fod yn gloff a chanddo draed clwb. Ac efo'r plant y mae o'n leicio bod. Heb baratoi dim arnom ni at y peth, dyma fo'n croesi atom ni ac yn deyd,—"Mae Daniel Williams, Eos y Waen, yn medru codi cythreulied, a dacw fo'n dwad yrwan." Mae Jona yn cael caniatad pobol i ddeyd y gair mawr ene am nad ydio ddim yn rhyw gall iawn. I'r gwrych i ganol y drain dros ein penne â ni y funud honno, a chau'n llygid nes i Daniel Williams basio. Yna i ffwrdd â ni fel yr awel adre. Yr oedd Jona wedi ei siomi'n arw na fuasem ni'n aros am gom ar ol y newydd ene.
"Mam," medde fi ar ol mynd adre, "ydio'n wir am Daniel Williams, Eos y Waen, ei fod o'n medru codi'r pethe hynny?" "Pethe hynny" ydi enw mam arnyn nhw.
"Ydi," medde mam, "wedi bod, ond dydio ddim yn eu codi nhw yrwan."
A dene hi'n deyd mai hynny oedd ei fusnes o un adeg, fod llyfre ganddo i'r pwrpas, ac y galle fo eu codi nhw a'u gostwng pan fynnai. Ond iddo fynd yn rhy hy arnyn nhw unweth, neu eu codi a methu a dwad o hyd i'w lyfre'n ddigon buan, ac i rywun fore drannoeth ei weld o'n hanner marw a'i ddillad yn rhidens. Mi losgodd ei lyfre wedyn yn ol y stori a glywodd mam. Ond y drwg ydi nad oedd mam ddim yn glir ar y darn ola ene,—ei fod o wedi gollwng ei afael ohonyn nhw.
Ac eto, mae hi'n anodd peidio â chwerthin wrth edrych arno fo os byddwch chi'n sâff oddiwrtho, fel yn y capel neu rywle felly, o achos y chwythu yma. Wrth gymyd ei wynt mae o'n tynnu ei foche i mewn nes eu bod nhw'n cyfarfod ei gilydd yn ei geg o, wedyn gollwng ei wynt allan nes bod ei foche'n mynd