i'w nhôl nhw, a smocio mae o byth." A lle sal oedd hi i nhad fedru ei roi heibio os methodd Daniel Williams.
Mae ofn Daniel Williams ar bawb felly. Ond os oes gan bobol erill resyme tros ei ofni o mae gan Wmffre a fi lawn mwy o resyme dros hynny na neb arall, fel y gwelwch chi rwan.
Dyma i chi ddau dro y cawsom ni rywbeth i'w neud â fo, ac mae'r ola yn dwad â ni at y Majic Lantar. Un nosweth y gaea dwaetha mi yrrwyd Wmffre a fi i'r Seiat i gynrychioli'n dau deulu. Ac mae gennym ni gryn ddwy filltir i'r capel. Ar y ffordd ryden ni'n pasio'r Mynydd Bach,—boncyn llawn o eithin lle mae merched Pen Llan yn sychu dillad ar ddiwrnod golchi. Yr oedd hi'n bur dwyll, ac wrth basio beth welwn ni ond fflam fechan yn dechre yn yr eithin a rhywun yn gwibio'n ol a blaen heibio iddi. Aethom yno, a phwy oedd yno ond Morus yr Allt, Dic Twnt i'r Afon, Bob y Felin, a Jac y Gelli, yn dechre rhoi'r eithin yma ar dân. A rywsut mi ddarum anghofio i ble roeddem ni wedi cychwyn, a dechre eu helpio nhw 'n ddiymdroi. Cyn pen ychydig o eiliade roedd y fflamie'n lliwio'r awyr y peth propa welsoch chi. Ymhen tipyn dene'r sgrechian mwyaf anobeithiol a ddisgynnodd ar glustie neb erioed, y tu ol i ni, a holl wragedd yr ardal ar ein hole. Pan ddaru nhw gyrraedd yno, doedd yno neb i'w croesawu, na siw na miw yn unman ond sŵn y fflamie. Wrth feddwl am gartre, a be dase'r stori'n mynd yno, mi gofiodd Wmffre a fi'n sydyn mai ar y ffordd i'r Seiat roeddem ni. A doedd dim rheswm gwell i'w roi dros fod heb wybod am yr helynt na deyd ein bod ni yn y Seiat. Ac yno â ni. Pan oeddem ni'n sefyll y tuallan i'r