gelfi efo fo. Ond doedd dim lle i'r ferlen yno am mai gaea oedd hi, a'r anifeilied i gyd i mewn, a'r Hendre'n ffarm fechan. Dyma air i'n tŷ ni eisio i mi fynd i'r Hendre. Ac mi es i ac Wmffre.
"Nedw," medde John Edwards yr Hendre, "fedri di ddreifio?"
"Medra," medde fi. Fum i rioed yn gafael mewn awenne, ond wedyn doeddwn i ddim gwaeth er trio.
"Fedrwch chi'ch dau fynd â'r cerbyd yma i'r Waen i dŷ Daniel Williams?" medde John Edwards.
"Medrwn," medde ninne efo'n gilydd.
"Ewch i mewn," medde John Edwards.
Ac i mewn â ni, mi'n gafael yn yr awenne a John Edwards yn gafael ym mhen y ferlen nes inni fynd o'r buarth i'r ffordd fawr. Wedi deyd wrthym ni am gymyd gofal, aeth John Edwards yn ei ol. Mae'r ffordd o'r Hendre i'r Waen yn agos i dair milltir, a'r un ffurf a'r llythyren Z, ac yn ffordd fynydd bron i gyd. Wedi mynd o olwg yr Hendre, dene stopio'r cerbyd i feddwl sut i neud. Roeddem ni wedi clywed lawer gwaith am ddynion yn gyrru nes bod carne'r ceffyl yn gwichian. Ac mi ddarum benderfynu y carem ninne glywed carne ceffyl yn gwichian am unweth yn ein hoes. A dene yrru, a gyrru, ond doedd carne'r ferlen ddim yn gwichian er ei bod hi'n rhedeg yn ofnadwy. Dyma ni'n trio cynllun arall,—codi ar ein traed yn y cerbyd, a neidio ar i fyny, a disgyn yn ol iddo, mor debyg i lwyth o gerryg ag y medrem ni. A phob tro y gwnaem ni hynny, roedd y ferlen yn rhoi plwc newydd, ac yn chwyrnellu mynd, ond doedd ei charne hi ddim yn gwichian. Wedyn dene drio sut y llwyddai dawnsio yn y cerbyd a gneud oernade.