Dallt be?" medde fi.
"Dallt bedi ysbrydolieth?" medde fo.
"Rydwi'n meddwl mod i," medde fi.
"Be?" medde fo wrth godi i ailgychwyn.
"Gwynt yn troi sowldiwr pren, yntê?" medde fi.
"Twt, lol," medde dewyrth, ac yn ei flaen â fo nes dwad i ben ei dennyn.
"Fel hyn," medde fo yn y man, "roedd ysbrydolieth yn gorfodi Ioan i sgwenu mewn geirie bychin—pwff a pheswch—fel y gwynt y sowldiwr pren."
"Ond tydi'r gwynt ddim yn gorfodi'r sowldiwr pren i sgwenu mewn geirie bychin," medde fi yn ffwndrus.
Aeth dewyrth yn gaclwm gwyllt yn y fan yma, nes i'w besychu roi pen ar ei stori. Ac roeddwn i yn y niwl yn lân. Wyddwn i ar wyneb y ddaear pwy oedd ysbrydolieth. Ond cyn i mi gael amser i ofyn iddo, i ffwrdd â fo.
Stopiodd wedyn i eistedd.
"Nedw," medde fo toc, "prun ai dyn tal ynte dyn byr oedd Paul?"
Atebes i mono fo am dipyn. Roeddwn i'n meddwl am yr ysbrydolieth yma. Mi allswn i feddwl ar dewyrth mai dyn wedi cael rhyw siort o strôc ydio, a rhywun yn gafael yn ei law ac ynte'n ddiymadferth, a'i defnyddio hi i sgwenu'r hyn mae o'n ddymuno. Ond yn ol y tipyn a glywes i am Ioan, dydio ddim yn edrych yn debyg iawn i fel tase'i Efengyl o wedi'i sgwenu gan ddyn wedi cael strôc. Mae'n rhaid, felly, fod rhyw ddrwg yn y caws, ynglŷn â syniad dewyrth amdano fo. Erbyn imi gael fy meddwl at ei gilydd, wedyn, ynghylch Paul, roedd dewyrth wedi mynd. Eis ar ei ôl o, ac roedd o'n aros amdana i, ac yn pwffian a phesychu, a'i frest fel rhegen rych.