DIC: Rwan, mam bach, os nad ewch i'ch gwely, dyma fi'n mynd allan y funud 'ma i ganol yr oerfel. Ewch hefo 'nhad, mi wna i'r tro yn iawn yma.
TAD (yn craffu ar DIC): Chlywis i mono ti mor 'styriol o dy fam ers plwc byd. (Yn oeraidd.) Rwan mae iti ddeyd os wyt ti'n sâl.
DIC: Nag ydw.
ELIN: Deyda'r gwir, 'ngwas annwyl i, faint sy ers pan mae'r pesychu 'na arnat ti ? Mi rydw i'n drwgleicio'r hen glic gâs 'na sy yn dy frest di.
DIC: Ewch i'ch gwely, mam: mi fydda i fel y gôg fory-os bydda i byw.
TAD: Rwan, Elin, mi awn.
ELIN (yn codi drwy help y tad, a cherdda'n llesg yn ei fraich at ddrws y grisiau, ond wrth y drws try ei golwg yn ôl): Cofia di roi digon ar y tân, mae llond y bocs o lo, ac mi fyddwn ar ein traed cyn i ti ddeffro bore fory. Nos dawch, Dic bach.
DIC: Nos dawch, mam. (Petrusa a dywed yn swil.) Nos dawch, 'nhad.
TAD (try yntau i edrych ar Dic, ond nid etyb): Rwan, Elin, gofalwch wrth ddringo'r grisiau.
[Gadewir Dic wrth ei hunan, a gwelir ef mewn cyfyng-gyngor dwys. Edrych o'i gylch, ac yn y man