Prawfddarllenwyd y dudalen hon
RHAGAIR
DYMA un o'r llyfrau mwyaf gwasanaethgar a gyhoedd- wyd ar y pwnc, i fyfyrwyr ar eu pennau eu hunain, i ddosbarthiadau, ac yn wir i bawb a fynnai fod yn llythrennog yn hanes celfyddyd lenyddol ei wlad ei hun. Y mae wedi ei gynllunio'n wyddorus a gofalus, ei ysgrifennu'n glir a diddorol, gyda llawer o sylwadau beirniadus yng ngwir ystyr y term-y peth prin hwnnw sy'n cynorthwyo dyn i ddeall a chael diddanwch mewn crefft lenyddol.
Mynych iawn y clywais ymofyn am lyfr o'r fath; a theimlaf fod y gwaith yn ateb yr alwad yn gryno ac yn graff.
T. GWYNN JONES.
- Bow Street,
- Ceredigion,
- Gorffennaf, 1937.
- Ceredigion,