Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/15

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A vo amyl i vel, troed yn i ywd
A vo trechaf treisiet
A vo nesaf ir ecclwys, pellaf o ywrth paradwys.
A vo da gau ddeo ys dir
A vo marw ny ochelir
A vo marw er bygwth a y ky­munet
A vynno clod, bid varw
A vynno Deo a vydd
A fwl, nid doeth ymryson
A gwyno kwyn bychan, kwyn mawr a ddarogan.
A gatwer, a gair wrth rait
A crea r vran vawr, a crea r vrall vechan.
A gymero dysc, catwet
A gynuller ar gefyn march mar len, dan i dor ydd a
A llygradd Deo, a lygradd dyn
Allan o olwc, allan o veddwl
Ameu pop annwybot