Tudalen:Oll synnwyr pen Kembero ygyd.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mal yr aran am i dwygoes
Mal yr hwch dan y vwyall
Mal y rhisc am y pren
Mal y saeth or llinyn
Mal y tan ar yr aeloyt
Mal y tan yn y carth
Mam vechan a ddivanw plant
March a syrth o ddyar i bed­warcarn
March a wyl yr yd ac ni wyl y cae
Mawrhedic pendeuic castell
Mawr yw toreth yr aflwydd
Mawrth a ladd: Eprill a vling
Mefyl ir coc ny lyfo i law
Mefyl ir llygoden vntwll
Melus gair da am a garer
Melysaf ywr cic po nesaf ir as­cwrn
Melus, moes etto
Melus pan gaer chwerw pan daler
Mi a gawn a vyddei gan vy mam, ac ny chawn ae dyc­kei ir llan
Mi adwaen iwrch er nas daliwyf