Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Orgraff yr Iaith Gymraeg (adroddiad 1928).djvu/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Nid oedd yn bosibl ei sefydlu heb ryw oleuni amgen nag oedd ar gael yr adeg honno. Ni allai'r blaid ganol, mwy na'r ysgol newydd, ymysgwyd o afaelion y syniad bod elfennau'r iaith i'w cael yn gyflawn ynddi hi ei hun yn y ffurf sydd arni'n awr. Chwaneger at pen y terfyniad lluosog -au, meddent, ac ni cheir ond penau: yr oedd y peth mor amlwg iddynt â 3+2 = 5. Ond nid gwyddoniaeth beiriannol fel rhifyddiaeth yw ieitheg, eithr gwyddoniaeth hanesyddol a chymharol: chwilier hanes y gair pen, ac fe geir mai penn yr ysgrifennid ef yn gyson gynt; cymharer y chwaer-ieithoedd, ac fe welir mai penn yw'r gair yn y Llydaweg, pedn yn y Gernyweg (yr n gyntaf wedi troi'n d), a cenn yn yr Hen Wyddeleg.[1] John Rhys, yn ei Lectures on Welsh Philology, 1877 (ail arg. 1879), a daflodd oleuni gwyddoniaeth ddiweddar gyntaf ar seiniau a ffurfiau'r iaith Gymraeg. Ni chymhwysodd yr hyn a ddarganfu at broblemau'r dydd; ond yn ddiweddarach fe gyfeiriai atynt yn fynych yn ei ddarlithiau i'w ddisgyblion. Yr oedd dadl yr orgraff erbyn hynny wedi llaesu mewn anobaith yn y wlad, a'r llenorion yn cytuno i anghytuno. Ond credai disgyblion Rhys yn Rhydychen, a hyder ieuenctid, eu bod wedi cael goleuni a'u galluogai o'r diwedd i ddwyn trefn o'r tryblith. Yng nghyntefin 1888 bu Cymdeithas Dafydd ap Gwilym yn trafod y mater mewn pedwar cyfarfod, a'r llywydd, yr Athro Rhys, yn y gadair. Penderfynwyd ar nifer o reolau parthed y prif bynciau oedd mewn dadl, ac anfonwyd hwynt i'r wasg.[2] Erchid ynddynt ddyblu pob p, t, c, m, s ar ôl yr acen; ond gan fod y rhain yn ddwbl wrth natur yn Gymraeg, awgrymodd Rhys yn 1889 y gellid hepgor dyblu ond y llythrennau petrus n ac r,[3] ac wedi

  1. c Wyddeleg p Gymraeg, o'r qu Gelteg; cymharer Gwydd. cethir, Cymr. pedwar; Gwydd. crenim, Cymr. prynaf, etc.
  2. Gweler Cymru Fydd, 1888, td. 431-4; Y Geninen, 1889, td. 138-141.
  3. Gan ychwanegu "ac l (ar ol cael un llythyren am ll)", Y Geninen, 1889, td. 132.