Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon
Wikipedia logo Mae erthygl am y pwnc:
Peter Williams
ar Wicipedia





PETER WILLIAMS A'I FIBL.

IONAWR 7, 1722.

ER mai mis oer, anserchog, y cyfrifir Ionawr gan lawer, y mae'n fis pwysig i'r hanesydd, canys yn ystod ei deyrnasiad gauafol ef y ganwyd llu mawr o enwogion ein teyrnas a'n gwlad. Yn mysg genedigion Ionawr yr oedd Isaac Newton, y gwyddonydd (1642); Linneus, y llysieuydd (1778); Benjamin Franklin, y darganfyddwr gwyddonol (1706), a James Watt, dyfeisydd yr ager-beiriant (1736). Ac onid Ionawr ydyw mis y llenor a'r bardd? Gallesid disgwyl i bob bardd gael ei eni yn Mai neu Fehefin,—misoedd y blodau a'r heulwen, ond y ffaith yw mai yn nghanol rhewynt ac ystormydd Ionawr y daeth llu o'r beirdd ar ymweliad â'r byd drwg presenol. Yn eu mysg, yr oedd Spenser, awdwr y Faerie Queen (1599); Ben Jonson, y telynegydd mwyn (1574); Arglwydd Byron, gyda'i athrylith ffrwydrol (1788); Robert Burns, awenydd