dymor, am y rheswm a ganlyn,—Arferai yr Atheniaid anfon llong unwaith yn y flwyddyn i Delos, yn llwythog gydag anrhegion i'r duw Apolo. A phan gychwynai y llestr, yr oedd y dref i gael ei phuro; nid oedd un dienyddiad i gymeryd lle hyd nes y deuai yn ol. Condemniwyd Socrates pan oedd y llestr hon ar fin cychwyn, a bu yn hwy nag arferol ar ei thaith. Yn y cyfamser, yr oedd cyfeillion Socrates yn bur awyddus i'w ryddhau trwy lwgr-wobrwyo y ceidwad, ond ni wnai efe gydsynio â hynny. Ei resymau dros beidio cydsynio oedd, yn gyntaf, ei ddyledswydd tuag at ei wlad, os oedd yr awdurdodau wedi ei gondemnio, dylasai ufuddhau, a phlygu i'w dynged; yn ail, os troseddai ddeddfau ei wlad, y byddai ei chwaer ddeddfau yn sicr o'i gondemnio mewn byd arall. Gofynwyd iddo ar un achlysur, a ydoedd yn credu y byddai yr enaid fyw byth. Atebodd yn gadarn ei fod; ond, fel y gallesid meddwl, hynod o eiddil ydyw ei resymau. Nid oedd bywyd ac anllygredigaeth wedi cael eu dwyn i oleuni y pryd hyn. Ambell i belydryn oedd yn tywynnu ar y meddwl dynol trwy nos paganiaeth. Dyma un o resymau Socrates. Beth sydd yn cadw bywyd yn y corff? meddai. Ateb,—Yr enaid. A ydyw bywyd yn un o elfenau hanfodol yr enaid? Ydyw. Yna, nis gall yr enaid ei hun farw. Fel yna yr oeddynt hwy yn ymresymu y pwnc.
Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/129
Gwedd