Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/131

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eddus a mil melusach ydyw athrawiaeth yr Hen Lyfr na'r cwbl ynghyd,—" Ac nis gallant farw mwyach." Diolchwn am y goleuni sydd yn ein meddiant, a rhodiwn ynddo. ******* Bellach, yr ydym yn terfynu y gyfrol fechan hon o enwogion gwahanol wledydd a chyfnodau. Yr ydym wedi eu dethol o lawer dosbarth a gradd. Yn eu mysg, ceir yr esboniwr, y seryddwr, y gwladweinydd, y duwinydd, y llenor, a'r bardd. Hyderwn fod aros yn eu cwmni wedi bod yn foddion i weini rhyw gymaint o fwynhad, ac i gynyrchu edmygedd at yr hyn sydd fawr, a da, a dyrchafedig.



GWRECSAM: ARGRAFFWYD GAN HUGHES A'I FAB.