Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dy fysedd, y lloer a'r sêr, y rhai a ordeiniaist, Arglwydd ein Iôr! mor ardderchog yw dy enw . . .yr hwn a osodaist dy ogoniant uwch y nefoedd."

Teliscop bychan oedd un Galileo. Nid oedd dim cymhariaeth rhyngddo a'r eiddo Arglwydd Ross, neu Arsyllfa Greenwich. Ond efe oedd rhagredegydd yr oll, a datguddiodd ryfeddodau. Llwyddodd Galileo i ddarganfod lleuadau Iau; cafodd gipdrem ar fodrwyau Sadwrn, a chanfu yr ysmotiau rhyfedd sydd yn symud dros wyneb yr haul.

Ond wedi iddo dreulio blynyddau o astudiaeth, a nosweithiau digwsg, i egluro Bibl y ffurfafen, cafodd yntau brofi gofidiau pob diwygiwr, a phob darganfyddwr gwirioneddol. Cafodd ei rybuddio gan y Vatican i ymattal rhag lledaenu ei ddysg newydd; ond fel yr apostolion gynt, nis gallai beidio. Angenrhaid a roed arno i fynegi ei argyhoeddiadau. Aeth y frwydr yn boethach. Dygwyd ef, yn hen ŵr deg a thriugain oed, gerbron y Chwilys Pabaidd. Cafodd ei boenydio, a'i wisgo mewn sachlian, a pherswadiwyd ef mewn moment wan i arwyddo datganiad oedd yn hysbysu ei fod yn ymwrthod â'i olygiadau, ac yn cofleidio athrawiaeth yr Eglwys Gatholig, er i honno fod yn groes i dystiolaeth ffeithiau anwrthwynebol. Ond pan yng ngharchar, a'i lyfrau yn gollfarnedig, dywedir iddo sibrwd y frawddeg (gan gyfeirio at gylchdro y ddaear),—