Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mil o bregethau, wedi bod yn llywydd y Conference am 47 o flynyddau, wedi cynllunio, arolygu, ac arwain y cyfundeb Methodistaidd am gymaint o amser,—daeth y diwedd. Ei destyn olaf ydoedd," Ceisiwch yr Arglwydd tra y galler ei gael Ef." Aeth haul ei fywyd cysegredig i lawr yn dawel ac esmwyth yn mis Mawrth, 1793. Yr oedd y gobaith gwynfydedig yn anadlu drwy ei eiriau ymadawol,— "Ac yn goron ar y cwbl, y mae Duw gyda ni." Yn yr ymwybyddiaeth yma y cauodd John Wesley ei lygaid ar ei waith, cyn myned ohono i dderbyn ei wobr.