Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'r hyn sydd yn rhyfedd ydyw, nid oedd Calvin ond gŵr ieuanc pump ar hugain oed pan ymddanghosodd yr Institutes. Rhaid fod ei feddwl wedi cyrhaedd rhyw addfedrwydd eithriadol, oherwydd ni farnodd yn mhen blynyddau fod eisieu cyfnewid dim ar gynwys na mynegiant y llyfr.

Ar ei hynt yr adeg hon, daeth ar ddamwain i Geneva, heb feddwl am aros yno ond un noson. Gwahanol, fodd bynnag, oedd bwriadau Rhagluniaeth. O hyny allan, yr oedd Calvin a Geneva i ymuno mewn glân briodas; yno yr oedd i fyw, yno yr oedd i farw, ac oddiyno yr oedd i ddylanwadu ar feddwl ei oes a'r byd. Ydyw; y mae y dref ar lan y llyn, yn nghanol gogoniant mynyddau Switzerland, wedi dod i feddu swyn hanes o ddyddiau Calvin hyd heddyw. "Nid oes un lle yn Europe," ebai Dr. Edwards, "wedi effeithio mwy ar y byd, mewn ystyr grefyddol a moesol, na Geneva. Oddiyma y bu Calvin yn dylanwadu ar holl deyrnasoedd cred, trwy ei ymddiddanion â'r dieithriaid a gyrchent ato o'r gwahanol wledydd, ac yn fwy na hynny trwy ei ysgrifeniadau. Yma y cafodd llawer o'r diwygwyr nodded yn nyddiau Mari waedlyd, pa rai, yn amser Elizabeth, a ddygasant olygiadau Calvin yn ol gyda hwynt, ac oblegid eu hymdrech i lân—buro yr eglwys a alwyd yn Biwritaniaid; a diau mai y rhai hyn yn nghyda'u