Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn gorfod cyfansoddi llawer o'i weithiau ar ei glaf-wely. Pa ryfedd i ganwyll ei fywyd losgi allan cyn cyrhaedd hen-oed? Bu farw yn mis Mai, 1564, yn yr oedran cynar o 55. Dodwyd y gweithiwr enwog i orffwys yn mynwent yr eglwys lle y buasai yn traddodi ei bregethau argyhoeddiadol; ond ni ddodwyd un maen na chofnod i ddangos man ei fedd. Dyna oedd ei ewyllys ef ei hun. Nid oedd maen mynor yn cydweddu â syniadau Calvin. Erys ei weithiau i fytholi ei enw a'i athrylith. Onid efe oedd meddyliwr mwyaf y cyfnod Protestanaidd? Luther oedd yr areithydd hyawdl; Melancthon oedd yr ysgolhaig manwl, ond Calvin oedd y meddyliwr,—y duwinydd, a'r esboniwr dihafal. Ni fedrai efe ysgwyd torf fel Luther, ni feddai y brwdfrydedd ysbryd, yr afiaeth orfoleddus oedd ynddo ef, ond yr oedd cynyrch ei feddwl i wneyd argraffiadau dyfnach ar efrydwyr y Bibl yn ystod y canrifoedd. "Y mae pob dyn gwir fawr, beth bynnag fyddo ei farn bersonol, megis Hooker a Horsley, yn ei gydnabod fel un o'r ysgrifenwyr galluocaf a ymddangosodd mewn un oes. Os oedd Luther, fel Pedr, yn rhagori mewn parodrwydd a brwdfrydedd; os oedd Melancthon yn meddu ar gariad Ioan; nid gormod yw dweyd, heb un amcan i godi y naill yn uwch na'r llall, mai Calvin oedd y tebycaf i Paul, o ran grymusder ac ehangder ei feddwl,