Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/7

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon



Mor lleied o hanes dynoliaeth,
Erioed ysgrifenwyd i lawr;
Bu'r ddôl yma'n faes buddugoliaeth,
O'r ffrwd acw'r yfodd y cawr;
O waed fy hynafiaid, ysgatfydd,
Y blodau hyn dyfant mor hardd;
Mae hanes; pa le mae'r hanesydd?
Diflanodd, gwahodder y bardd.
 
—IOLO CARNARVON