Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

parlys, ac ehedodd ei ysbryd pur i'r orffwysfa lonydd. Nid ydoedd ond deuddeg a deugain oed; ond y fath waith oedd wedi ei grynhoi i flynyddau ei einioes. Gwasanaethodd ei genhedlaeth ei hun gydag ymroad difefl fel gweinidog ac athraw; ond yn ei Esboniad, cyflawnodd wasanaeth i lawer cenhedlaeth ac oes. Y mae ei waith yn arcs; nid ydyw dwy ganrif o'r bron wedi ei ddiorseddu. Cyfododd ereill ar ei ol i ysgrifennu yn fwy beirniadol, ac yn fwy ysgolheigaidd, ar ranau arbenig o'r Gair Dwyfol. Ond fel esboniad sydd yn treiddio i galon yr Ysgrythyrau, yn tynu allan wersi ac addysgiadau o holl gynnwys y Bibl, nid oes hafal i'r eiddo Mathew Henry. Gwerthfawrogid ef gan y dysgedig a'r darllenydd cyffredin, ac nid yw ei boblogrwydd yn lleihau dim fel y mae amser yn dirwyn ymlaen. Y mae yn hen, heb heneiddio; ni chiliodd ei ireidd-dra, ni phallodd ei olygon. A thra yr erys blas ar ddarllen ac efrydu y Bibl, fe erys Esboniad Mathew Henry yn gydymaith, yn arweinydd, ac yn drysor gwerthfawr yn llenyddiaeth ei genedl a'i wlad. Efe ydyw, ac a fydd, Esboniad y Bobl.