Tudalen:Oriau Gydag Enwogion.djvu/81

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

lenyddiaeth, ac yn ei weithiau ef y ceir porfeydd gwelltog barddoniaeth y ddeunawfed ganrif. Y mae hanes ei fywyd yn gymysgedd o'r tywyll a'r goleu; ambell i gyfnod pygddu, fel noson ystormus yn nhrymder gaeaf, a rhanau ereill yn oleu a thyner fel wybren Ebrill a Mai.

Ganed of ar y pymthegfed o fis Tachwedd, 1731, yn Berkhampstead, Swydd Herts, deheubarth Lloegr. Clerigwr oedd ei dad. Collodd ei fam pan yn chwech oed, ond arhosodd yr adgof am dani yn ei feddwl ar hyd ei oes. Cafodd addysg a hyfforddiant ar aelwyd ei dad, ac wedi dod i oedran addas, anfonwyd ef i Westminster School, lle y dioddefodd lawer oddiwrth ei gyd-ysgolheigion ar gyfrif ei yswildod, a'i amharodrwydd i ymuno yn mabolgampau a chwareuon y dydd. Wedi hyny aeth i astudio y gyfraith, a chymhwysodd ei hun i fod yn fargyfreithiwr. Ond ychydig o addasder oedd ynddo at y gwaith. Dyn neillduedig ydoedd, yn cilio oddiwrth bob cyhoeddusrwydd. Nid oedd yn berchen ynni na gwroldeb. Yr oedd yn dyner, yn addfwyn, ond yn amddifad o uchelgais, ac o'r beiddgarwch hwnnw sydd yn torri ei ffordd drwy rwystrau fyrdd. Meddai gysylltiadau da, a pherthynasau o ddylanwad; ac yn yr oes honno, fe wyddis mai nawddogaeth (patronage) oedd yn teyrnas mewn byd ac eglwys. Cafodd yntau, drwy ddylanwad perthynas