fel clerigwr. Dau gymeriad tra gwahanol oedd John Newton a William Cowper, y naill yn gryf ac eon, a'r llall yn llednais ac ofnus, ond yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol; ac ar anogaeth a chymhellion John Newton y cyfansoddodd Cowper yr emynau melus a adwaenir fel yr "Olney Hymns." Un felly oedd Cowper,—yr oedd yn rhaid ei symbylu at ei orchwyl. Ychydig o gred oedd ganddo ynddo ei hun, nac yn ei alluoedd. Y mae ei holl weithiau wedi eu hawgrymu, neu eu hysbrydoli gan arall. Anogwyd ef gan Mrs. Unwin, ei letywraig hynaws, i gyfansoddi y Table Talk, a gwnaeth hyny. Cyhoeddwyd y gwaith yn gyfrol fechan, ond derbyniad lled oeraidd a roed iddi gan yr adolygwyr. Yr un pryd, y mae rhai darnau o'r gwaith wedi aros, ac yn cael eu cyfrif heddyw ym mysg ceinion yr awen.
Ond yr oedd Cowper i gyfansoddi gwaith mwy, gwaith oedd i gymeryd ei le yn y dosbarth blaenaf o farddoniaeth. Ac i ddamwain, fel yr ymddangosai ar y pryd, yr ydys yn ddyledus am y dernyn newydd ac ardderchog hwn. Yr oedd John Newton, bellach, wedi gadael Olney, a chymerwyd ei annedd gan foneddiges lengar o'r enw Lady Austen. Meddai gydymdeimlad â llenyddiaeth, a pherswadiodd Cowper i ganu caniad newydd. "'Does gen i yr un testyn," meddai y bardd neillduedig. "Os felly," ebai y