Yr oeddym yn cydweled yn hollol â sylw ein driver pan yn bwrw golwg hamddenol ar y wlad:—"Y gwir ydi, y mae visitors yn aros yn rhy hir cyn dod i lefydd. fel hyn. Dyma yr adeg oreu ar y flwyddyn, cyn i'r gwres fyn'd yn eithafol, a chyn i'r dail a'r blodau ddechreu gwywo." Chwi sydd a'ch bryd ar weled y wlad yn ei gogoniant, cymerwch yr awgrym. Ond dyma ni wedi cyrhaedd yn ddiogel i Bentraeth. Lle bychan gwir brydferth, tawel, ac iachusol ydyw hwn. Yr oedd ei enw yn hysbys i ni er's llawer dydd, ond ni feddyliodd ein calon ei fod yn llanerch mor farddonol. Wedi sylwi ar y masnachdy ar yr aswy—cartref y Thesbiad," aethom, yn nghwmni y gyriedydd, i weled olion rhyw hen gawr yn neidio ar dir y Plasgwyn—palas yr Arglwyddes Vivian. Pwy oedd y cawr? phaham y llamodd yn y fan hon mwy na rhyw lecyn arall? Modd bynag, y mae y cerig sydd yn dangos ôl yr orchest yn cael eu gadael yma yn ofalus. Dychwelasom wedi hyny tua'r fynwent. Y peth cyntaf a wnaethom oedd chwilio am fedd y Thesbiad. Cawsom ef yn rhwydd ar ochr ogleddol yr eglwys, yn lled agos i dŵr y gloch. Careg orweddol, o ithfaen Mon, sydd ar y bedd, a railings isel o'i gwmpas. Y mae bellach lawer haf-ddydd hir wedi myned heibio er pan ddistawodd y llais o'r ogof. Cawsom fyned i mewn i'r eglwys. Y mae yn adail hynod o brydferth. Teimlir fod yn y lle gyfarfyddiad o ddwysder a thawelwch. Ar y muriau ceir tablets heirdd yn coffhau am deuluoedd enwog yn y gymydogaeth. Ar un ohonynt canfyddir enw Paul Panton, o'r Plasgwyn—cymwynaswr llenyddiaeth Gymreig. Gresyn fod y trysorau a gasglodd yn awr dan gudd. Yn agos ato, gwelir enw Councillor Williams, boneddwr a fu yn gymwynaswr i lenyddiaeth Gymreig yn nyddiau William Pritchard, o Blasybrain. Carasem aros yn hwy yn Pentraeth, ond yr oedd brodyr yn ein disgwyl yn mhellach yn mlaen. Aethom i'r cerbyd drachefn; cyn hir yr oeddym yn pasio capel
Tudalen:Oriau yn y Wlad.djvu/40
Gwedd